£5 oddi pris Adar Cynnar ar gyfer tocynnau pris uchaf a cyn diwedd Medi.
Prynnwch am dau sioe a chael 20% i ffwrdd.
Dim ond un cynnig ar unrhyw un adeg.
Mae Senbla, drwy drefniant ag Opera International, yn cyflwyno Cynhyrchiad Ellen Kent, gydag unawdwyr rhyngwladol, corws clodwiw a cherddorfa lawn.
Wedi’i gyfarwyddo gan Ellen Kent, mae’r cynhyrchiad newydd sbon hwn wedi’i lwyfannu’n draddodiadol ac yn cynnwys setiau a gwisgoedd prydferth.
Mae La Bohème yn un o’r operâu mwyaf rhamantus a ysgrifennwyd erioed. Mae’n adrodd chwedl drasig Mimi a’i charwriaeth drychinebus ag awdur heb ddimai goch y delyn.
Mae’r set yn adlewyrchu celf fohemaidd y cyfnod a bydd yn cynnwys band pres lleol, effeithiau eira a bydd ci Musetta hefyd yn ymddangos.
Mae’r chwedl glasurol hon o gariad a cholled Barisaidd yn cynnwys llawer o ariâu enwog, gan gynnwys ‘Your Tiny Hand is Frozen’, ‘They Call Me Mimi’ a ‘Muzetta’s Waltz.
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg.
*Gall y cast newid.
“Dilys, tyner ac angerddol” Daily Telegraph