Croeso nôl i Elena Dee, y soprano penigamp o Gorea.*
Mae’r cynhyrchiad newydd sbon hwn sydd wedi’i gyfarwyddo gan Ellen Kent, wedi’i lwyfannu’n draddodiadol ac yn cynnwys setiau a gwisgoedd prydferth.
Mae La Bohème yn un o’r operâu mwyaf rhamantus a ysgrifennwyd erioed. Mae’n adrodd chwedl drasig Mimi a’i charwriaeth drychinebus ag awdur heb yr un geiniog.
Mae’r set yn adlewyrchu celf fohemaidd y cyfnod a bydd yn cynnwys band pres lleol, effeithiau eira a bydd ci Muzetta hefyd yn ymddangos.
Mae’r chwedl glasurol hon o gariad a cholled Barisaidd yn cynnwys llawer o ariâu enwog, gan gynnwys ‘Your Tiny Hand is Frozen’, ‘They Call Me Mimi’ a ‘Muzetta’s Waltz’.
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg.
*Gall y cast newid.