fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

 Käthe Kollwitz (1867-1945), sy’n nodedig am bŵer emosiynol ei darlunio, ei phrintiau a’i cherfluniau.

24.03.18 – 17.06.18, 10.00-17.00
Rhagarddangosfa – 23.03.18, 19:00 – 21:00

Ystafell 3
Un o’r prif artistiaid ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif oedd Käthe Kollwitz (1867-1945), sy’n nodedig am bŵer emosiynol ei darlunio, ei phrintiau a’i cherfluniau.

Roedd hi’n byw bywyd a oedd yn cael ei archwilio’n ddwys, a gafodd ei fynegi yn ei hunanbortreadau, ei dyddiaduron a’i llythyrau niferus; wrth wraidd y fodolaeth hon oedd ei gwaith fel artist a’i meistrolaeth ar gelf graffig, a enillodd fri iddi’n gyflym yn yr Almaen ac yna’n rhyngwladol wrth i’w dylanwad ledaenu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn yr arddangosfa hon, gellir gweld doniau artistig unigryw Kollwitz, yn ogystal â’i gallu technegol, ei deallusrwydd ac, yn bennaf oll, ei dyngarwch. Mae llawer ym mywyd a gwaith Kollwitz sy’n meithrin gobaith, gan ysbrydoli a chalonogi, er gwaethaf baich caledi a galar y bu’n rhaid iddi hi a chynifer o’i ffigyrau ei ysgwyddo. Yn aml roedd ei phwyslais ar yr hyn a oedd yn nodweddiadol am brofiad menywod, gan gynnwys natur a nerth sylfaenol cariad mamol. Roedd hi’n credu y gallai celf fod yn rym er lles ein cymdeithas.

Caiff yr arddangosfa hon ei threfnu mewn partneriaeth rhwng Ikon a’r Amgueddfa Brydeinig a’i chefnogi trwy haelioni The Dorset Foundation a darperir cyhoeddiad llawn darluniau i gyd-fynd â hi.

Dyddiad
24 MAW - 17 MEH
Lleoliad
Glynn Vivian Art Gallery