Grŵp jazz siambr o Lundain sy’n rhoi stamp cyfoes ar jazz Americanaidd, o’r oes swing/bebop i ddylanwad Django Reinhardt yw’r Kamao Quartet. Ystyr Kamao yn iaith Romani yw “Dwi’n hoffi/Dwi’n caru/Dwi eisiau” ac mae’r aelodau yn gerddorion sy’n cynnwys cyfoeth o genres gwahanol.
Gyda chyfuniad o gitâr drydan fwaog arweinydd y band, Jean de Talhouët, a gitâr rhythm Dave Kelbie, mae seiniau’r band yn adleisio traddoddiad band jazz dan arweiniad gitârs, heb ddrymiau. Wedi’u llywio gan glarinét/sacsoffon tenor Dave Shulman, gyda chymorth y basydd dwbl Ruth Goller, dyma jazz Sipsi ar ei newydd wedd.ake on Gypsy jazz.
‘Lively and full of soul – a night of beautiful music’ LONDON JAZZ NEWS