‘Are you ready for some filth? I know I am. Time once again for me to sally forth and pleasure the provinces with my particular brand of saucy innuendo. Let me at them!’
Yn y sioe tu hwnt o fursennaidd hon (yr oedd Julian yn bwriadu ei galw’n Bed Knobs and Knee Pads cyn sylweddoli efallai na fyddai’n boblogaidd iawn yn Harrogate), bydd Julian Clary, y digrifwr cyfunrywiol enwog, yn datgelu mwy o gyfrinachau nag erioed o’r blaen er mwyn eich diddanu chi.
Bydd ef siŵr o berfformio rhai caneuon enwog (yn wael), bydd yn darllen rhan o’i gofiant nesaf, A Night at the Lubricant, ac yn gwneud sylwadau sych am aelodau’r gynulleidfa sy’n ddigon twp i eistedd yn y rhes flaen. ‘Dych chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl. Dyma’r unig fywyd sy’n gyfarwydd iddo. Peidiwch â cholli’r cyfle i’w weld.
Efallai mai dyma fydd y tro olaf iddo siarad yn ddiflewyn ar dafod.