23-25 Mawrth 2023 – Taliesin
Geiriau gan Tim Rice
Cerddoriaeth gan Andrew Lloyd Webber
Mae Ysgol Theatr Class Act, Abertawe wrth ei bodd yn dychwelyd i Taliesin gyda’r ffefryn teuluol hwn! Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat fydd cynhyrchiad llawn cyntaf CATS Abertawe ers 2019 ac rydym yn edrych ymlaen at ei rannu gyda chi.
Mae’r sioe gerdd hudolus yn llawn caneuon bachog mewn amrywiaeth o arddulliau, o barodi o faledi Ffrengig (‘Those Canaan Days’), i gerddoriaeth Country & Western (‘One More Angel in Heaven’) a calypso (‘Benjamin Calypso’), ynghyd â’r clasuron bythgofiadwy ‘Any Dream Will Do’ a ‘Close Every Door’.
Ymunwch â’n cast gwych o fyfyrwyr rhwng 6 a 18 oed wrth iddynt cymryd ni ymhell yn ôl, ganrifoedd lawer yn ôl’, i’r Hen Aifft yn y sioe liwgar, egnïol hon.