“Yn ystod yr amserau anodd ac ansicr hyn, mae angen gobaith ar bobl – llygedyn o heulwen i godi eu hwyliau. Dyma beth yw fy rôl i” meddai Jack.
Yn ogystal â bod yn seren sioeau comedi’r teledu megis Bad Move, Lead Balloon a Josh, mae Jack hefyd yn cyflwyno sioe radio wych I’m Sorry I Haven’t A Clue Radio 4. Mae ei lwyddiannau eraill yn cynnwys cyflwyno Jack Dee’s Helpdesk ar BBC Two, The Jack Dee Show ar C4, Jack Dee’s Saturday Night ar ITV, Jack Dee’s Happy Hour y BBC a Jack Dee Live At The Apollo. “Y gwirionedd yw”, meddai Jack, “mae’n debygol fy mod i wedi ymddangos ar bob rhaglen deledu sy’n cynnwys fy enw i yn y teitl”.
Mae hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau siarad ysgogiadol, y mae Jack yn eu disgrifio fel “gwastraff amser, siarad â thwpsod ond mae’r arian yn dda” ac ychwanegodd “peidiwch ag argraffu hynny”. Mae’n anodd gwybod a yw o ddifrif ai peidio?
I gydnabod ei waith elusennol, gwrthodwyd OBE i Jack yn 2015.