Cerddoriaeth Dolly Parton a Kenny Rogers. Dewch i fwynhau caneuon y cantorion gorau sydd gan ganu gwlad i’w cynnig – Dolly Parton a Kenny Rogers.
Gadewch eich pryderon 9 i 5 wrth y drws a pharatowch am noson yng nghwmni teulu brenhinol canu gwlad!
Mae’r sioe lwyfan fywiog hon yn dod â swyn a phersonoliaeth annwyl Dolly a charisma ac egni Kenny ynghyd, gydag un gân boblogaidd ar ôl y llall, gan gynnwys: Jolene, Ruby, 9 to 5, Lucille, Here You Come Again, The Gambler, I Will Always Love You, Coward of the Country, yn ogystal â’r gân hynod lwyddiannus Islands in the Stream.
Dewch i fwynhau cerddoriaeth wych a doniau cerddorol rhagorol wrth i ni wefreiddio’r gynulleidfa gyda sioe deyrnged o’r radd flaenaf i ddau o enwogion canu gwlad.
Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol, ystadau, cwmnïau rheoli neu sioea.