Igglepiggle’s Busy Day!
Mae Igglepiggle, Upsy Daisy, MakkaPakka a’u ffrindiau yn ôl yn eu sioe fyw ddifyr, Igglepiggle’s Busy Day! Ymunwch ag Igglepiggle wrth iddo chwilio am ei ffrindiau yng Ngardd y Nos drwy ddilyn eu synau doniol nes iddo ddod o hyd iddyn nhw.
Cewch weld eich hoff gymeriadau’n dod yn fyw, gyda gwisgoedd maint llawn, pypedau hudol a cherddoriaeth swynol. Mae’r sioe newydd sbon hon yn para ychydig llai nag awr a bydd eich rhai bach yn rhyfeddu pan fydd y Pinky Ponk hedegog anhygoel yn ymweld â nhw.
Mae In the Night Garden Live, sydd bellach yn ei 11eg flwyddyn, yn un o hoff ddigwyddiadau teuluol y DU. Mae dros 1 miliwn o bobl wedi’i gweld hyd yn hyn, ac mae’n cael 4.8 seren allan o 5 yn seiliedig ar adolygiadau 13,490 o rieni.
Mae sioeau eraill i blant ifanc, ond yn ôl yr Independent “Does dim byd yn debyg i In the Night Garden Live.”
Pip-pip, onk-onk!
“The biggest family event this summer!” – The Independent
“Excellent – my daughter had the time of her life!” – The Daily Telegraph
“The hottest ticket in town!” – The Mirror
“Enchanting.” – Radio Times
“It’s hard to imagine a show more likely to engage little ones and give them a sense of the magic of theatre.” – The Guardian
“It’s the toddler version of rock-star hysteria!” – The Times
“Ingenious!” – The Sunday Times