fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Stori gerddorol am oresgyn gan y wraig dalentog, Ify Iwobi, o Abertawe.

Dewch i glywed hanes Ify Iwobi, pianydd, cyfansoddwr a cherddor o Abertawe, drwy leisiau plant.

Ymunwch â thair ysgol leol (Ysgol Gymraeg Bryn-y-Môr, Ysgol Gatholig San Joseff, Ysgol Gynradd Llanrhidian) a gadewch i gerddoriaeth ‘Illuminate’ fynd â chi ar daith siriol ac emosiynol lle byddwch yn teimlo’r rhythm, yn profi’r synau ac yn clywed y stori’n datblygu. Mae’r sioe’n dilyn hanes merch ifanc 7 oed sy’n darganfod crefft cyfansoddi sy’n profi anawsterau, ac yn adrodd ei stori i’r byd drwy eiriau ei chaneuon! Bydd y sioe hon yn eich swyno, ac ni fyddwch yn ei hanghofio!

Defnyddir rhan o’r elw o’r gyngerdd hon i addysgu 10 plentyn yn 2020 drwy Sefydliad Yr Athro Joseph Ogbonna Uzo.

Mae Illuminate yn cynnwys Anais, y storïwr, cerddorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â cherddorion ifanc medrus eraill o Gymru. Mae hefyd yn cynnwys trefniadau dawnsio dawnswyr Crossing Borders.

‘Mae Ify yw un o’r cyfansoddwyr mwyaf cyffrous ac amrywiol i mi gwrdd â hi ers amser hir. Mae’n un i’w gwylio, yn sicr.’ Steve Balsamo, canwr/cyfansoddwr.

‘Mae albwm ‘Illuminate’ Ify Iwobi yn un prin, sy’n llawn goleuni. ‘Siwrne ysbrydoledig – a hudolus.’ Jeremy Gluck, The Barracudas.

‘Mae Ify Iwobi’n gerddor dawnus iawn…’ Mike Kennedy – golygydd cylchgrawn SoundBoard

Mae Ify Iwobi wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yn lleol ac yn genedlaethol drwy berfformio gyda’i band mewn lleoliadau nodedig fel Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Sain Ffagan, Adeilad y Pierhead, Gŵyl Gerddoriaeth y Lluoedd Arfog, Teml Heddwch Caerdydd a Senedd y DU, i enwi ychydig enghreifftiau’n unig! I ychwanegu at ei rhestr o lwyddiannau, mae hi wedi cyfansoddi cân o’r enw ‘Assemble’ y mae Llywodraeth Cymru wedi’i defnyddio fel teyrnged i nodi cyfraniadau’r dynion a’r menywod lleiafrifoedd ethnig a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

Dyddiad
18 Mai 2020
Lleoliad
Swansea Grand Theatre