fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Hwyl y Pasg!

Dydd Sadwrn 13 i ddydd Sul 28 Ebrill 2019

I lawr twll cwningen gyda the go iawn! Te parti gydag Alice a’r Hetiwr Hurt! Cadwch le ar y trît arbennig hwn i’r Pasg! Parti ardderchog yng nghwmni Alice a’r Hetiwr Hurt gyda the go iawn, teisennau, brechdanau a mwy! Dewch i gael sgwrs â’r Hetiwr! Gallwch chwarae ambell i gêm. A chanu a dawnsio gydag Alice. Mae’n siŵr o wireddu’ch breuddwydion am Wlad Hud!

Mae’n Basg bob dydd yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr yr hanner tymor hwn! Rydym ar ein ffordd i Wlad Hud! Cewch gwrdd â’r gwningen wen, Alice a’r Hetiwr Hurt! Ymunwch yn yr hwyl a’r gemau ar antur stori te parti ryngweithiol wallgof! Gwisgwch eich bonedau Pasg, hetiau gwallgof, neu wisgoedd hudolus gwych ar gyfer y gystadleuaeth Gwisg Ffansi! Mwynhewch y rasys cwningen ac wrth gwrs paratowch i fod yn wirion yn ein helfa ŵy a llwy arbennig. Brysiwch, cyn i dic-toc cloc y cwningod gwynion ddod i ben, beth am ddilyn Alice ar helfa drysor arbennig am rai danteithion blasus? Bydd cwisiau Pasg, crefftau’r Pasg a ffrwydriadau gwych eraill! Codir tâl mynediad safonol.

Dyddiad
13-28 EBR
Lleoliad
Gower Heritage Centre