fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Gŵyl Ymylol Abertawe yn dychwelyd i Ganol Dinas Abertawe o ddydd Iau 3 Hydref i ddydd Sul 6 Hydref 2019!

Mae Gŵyl Ymylol Abertawe’n dychwelyd eleni gyda llu o ddigwyddiadau amrywiol mewn lleoliadau ar draws canol y ddinas a bydd yn arddangos y gorau o ddiwylliant Cymru gan gynnwys cerddoriaeth, comedi, barddoniaeth a’r celfyddydau.

Gyda thros 200 o artistiaid i’w gweld mewn dros 20 o leoliadau, cewch brofi’r digwyddiadau mwyaf cyffrous, deinamig a bywiog fydd yn siŵr o’ch diddanu dros 4 diwrnod. Felly, dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau, a rhannwch brofiad unigryw, arbennig a fydd yn rhywbeth i’w drysori am flynyddoedd lawer.


Amserlen Fyw

Caiff amserlen fyw o’r digwyddiadau ei diweddaru bob dydd Llun wrth i fwy o berfformwyr, bandiau a digwyddiadau gael eu cyhoeddi. Ewch i wefan Gŵyl Ymylol Abertawe i wirio’r amserlenni byw, a chadwch lygad am y rhaglen lawn ddechrau mis Medi.

Amserlen Fyw


Parti Lansio

Bydd Gŵyl Ymylol Abertawe yn dechrau gyda pharti lansio yn neuadd fawreddog y Brangwyn, gan gynnwys Afro Cluster, Zervas & Pepper, Buzzard Buzzard Buzzard, Bandicoot, yn ogystal ag adloniant a gweithgareddau i bob oed. Mynediad am ddim i blant dan 16 oed!
Ewch i’r dudalen ddigwyddiadau i gael yr holl wybodaeth, neu i gael y newyddion diweddaraf dilynwch y digwyddiad ar Facebook;

Parti Lansio Gŵyl Ymylol Abertawe 2019
Ymunwch Ar digwyddiad Parti Lansio ar Facebook


Gwybodaeth am docynnau

Mae Gŵyl Ymylol Abertawe yn cynnig digwyddiadau am ddim a digwyddiadau â thocynnau, gyda thocynnau dyddiol a thocynnau penwythnos ar gael.

Unwaith bydd tocynnau wedi’u prynu, bydd angen i chi gasglu’ch bandiau arddwrn mynediad yn y swyddfa (gellir cael mwy o wybodaeth isod). A peidiwch â phoeni – os nad ydych yn gallu bod yno ar gyfer yr holl gyffro, mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau’n costio £5 yn unig wrth y drws.

Archebwch eich tocynnau drwy fynd i wefan Eventbrite

Mae swyddfa bandiau ardwn mynediad yn y Three Lamps, Abertawe;
2 Stryd y Castell
Abertawe
SA1 1JE

Peidiwch ag anghofio i ddweud helô wrth y tîm!

Os oes angen i chi siarad â’r tîm neu os ydych chi am wirfoddoli dros y penwythnos, cysylltwch â nhw drwy e-bostio enquiries@theswanseafringe.com


Gŵyl Ymylol Abertawe 2019

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe 2019 gyfan, sydd hefyd yn cynnwys Archarwyr yn Sgwâr y Castell a CGG y BBC: Rhestr Chwarae Glasurol: Yn fyw.

Darganfyddwch ragor am ŵyl ymylol Abertawe 2019

Dyddiad
03-06 HYD
Lleoliad
Various