fbpx
Teithiwch i Abertawe gyda GWR a gallwch arbed dros 50% ymlaen llaw.
Teithiwch ar drên.

Mae Gŵyl Ymylol Abertawe yn dychwelyd! Yn dychwelyd rhwng 21 a 24 Hydref, gan arddangos rhai o’r doniau celf, cerddoriaeth, comedi a gair llafar gorau sydd gan Abertawe i’w cynnig, a mwy!

Mae’n rhywle i ddod â’ch ffrindiau a’ch teulu a rhannu rhywbeth arbennig ac unigryw y byddwch yn ei gofio am flynyddoedd i ddod.

Mae amserau cyffrous o’n blaenau! Rhaglen ac amserlenni byw i ddod yn fuan!

Cymerwch gip ar yr Ŵyl Ymylol ar Facebook, Instagram neu Twitter.

Rhagor o wybodaeth

 

Gwybodaeth am Docynnau

Mae tocynnau pythefnos a diwrnod ar gael, yn ogystal â thocynnau wrth y drws ar gyfer digwyddiadau unigol, gan eich caniatáu i gael profiad Gŵyl Ymylol sy’n addas i chi.

Prynu Tocynnau

Unwaith eich bod wedi prynu eich tocynnau, gallwch eu cyfnewid am fand arddwrn llachar yn y Swyddfa Bandiau Arddwrn (manylion yn y man)

Gallwch hefyd brynu a chyfnewid tocynnau ar gyfer yr ŵyl yn ystod y Parti Lansio yn Founders and Co. ddydd Iau 21 Hydref.

D.S. mynediad am ddim i blant dan 16 oed. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ynghylch digwyddiadau ‘addas i blant’ yn rhaglen yr ŵyl pan gaiff ei rhyddhau

Ydych chi am fod yn rhan o’r Ŵyl Ymylol? Dewch i wirfoddoli!

Mae Teulu Gŵyl Ymylol Abertawe’n chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu yn ystod yr ŵyl, gyda rolau fel stiwardiaid, swyddogion cyfryngau cymdeithasol, codi nwyddau trwm ac amrywiaeth o rolau eraill.

I gymryd rhan, e-bostiwch enquiries@theswanseafringe.com, neu e-bostiwch fynegiant o ddiddordeb i amina.abu-shahba@abertawe.gov.uk, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Dyddiad
21-24 HYD
Lleoliad
Various