fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Ymunwch â’r hwyl a darganfyddwch brofiad unigryw sy’n dathlu’r Jin a’r Rỳm gorau ac sy’n addo bod yn barti a hanner!

Os ydych am ehangu’ch gwybodaeth neu gael hwyl drwy gydol y nos, yna’r ŵyl Jin a Rỳm yw’r ŵyl i chi! Cewch ddarganfod ffefrynnau newydd gyda samplau gan ein distyllwyr gwadd dethol, tretio’ch hun yn ein bariau Jin a Rỳm ac ymlacio gyda’ch ffrindiau wrth fwynhau cerddoriaeth gyda’n DJ arobryn ac adloniant byw

Bydd digon o ddewis ar gael gyda thros 120 o’r diodydd Jin a Rỳm gorau ar y farchnad, gan gynnwys y gorau o Brydain, gwirodydd o bob cwr o’r byd ac amrywiaeth eang o gynnyrch â blas. Bydd ein cynnyrch dethol yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ddarganfod jin a rỳm o’r ansawdd gorau, y bydd llawer ohonynt dim ond i’w cael yn ein gŵyl ni. Heb gael eich argyhoeddi mai Jin a Rỳm yw’r diodydd i chi?….Dim problem! Ewch draw i’n bar coctels lle bydd detholiad o goctels ar gael, ynghyd â Tequila i’w sipian, cwrw ac wrth gwrs, diodydd pefriog.

Mae’r canlynol wedi’i gynnwys ym mhris eich tocyn:

*NEWYDD ar gyfer 2023 DIOD AM DDIM
*NEWYDD ar gyfer 2023 BYRBRYD AM DDIM, wedi’i noddi gan Love Corn
Gwydryn unigryw â brand yr Ŵyl Jin a Rỳm, gyda bag cario i’w gadw’n ddiogel.
Gwelltyn metel ailddefnyddiadwy #achubwchycrwbanodmôr
Arweiniad llawn gwybodaeth ar Jin a Rỳm i’ch llywio drwy’r ŵyl.
Distyllwyr a chynhyrchwyr a fydd yn arddangos eu cynnyrch diweddaraf gyda samplau am ddim
Cerddoriaeth gan ein DJ preswyl arobryn a rhywfaint o adloniant byw gorau’r DU.

Dyddiad
16 MED 2023
Lleoliad
Brangwyn Hall
Price
17