Eleni, bydd rhaglen yr ŵyl yn cynnwys pymtheg taith dros bum niwrnod. Fel rhaglen y llynedd, byddwn yn cynnal amrywiaeth o deithiau sy’n addas ar gyfer beicwyr o bob gallu, o’r bobl sy’n mwynhau llwybrau byr, sy’n wastad yn bennaf, i lwybrau hwy gyda rhai llethrau serth a llwybrau mwy heriol a bryniog hyd at 50 o filltiroedd.
Yn ogystal â hyn, er bydd y rhaglen yn cynnwys o leiaf tri llwybr ar Benrhyn Gŵyr o hyd, rydym wedi ehangu ar yr ardaloedd a fydd yn cael eu cynnwys yn y llwybrau i gynnwys rhagor o’n llwybrau beicio mwyaf enwog, gan deithio i’r gogledd ac i’r gorllewin i Sir Geredigion, ac i’r dwyrain a’r gogledd i Bort Talbot, Castell-nedd a Phowys.
29 Mai - 02 MEH
10:00am - 16:00pm