Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf – Traeth Caswell
Dydd Mercher 24 Gorffennaf – Traeth Oxwich
Dydd Iau 25 Gorffennaf – Traeth Porth Einon
Dydd Gwener, 26 Gorffennaf – Bae Bracelet
Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf – Traeth Blackpill (ger y Lido)
Rhwng 10.00am a 4.00pm.
Gweithdy galw heibio AM DDIM (mae croeso i bob oed a diwylliant).
Gŵyl Gerfluniau gyda gweithdai Celf Amgylcheddol am ddim. Ymunwch â thîm o artistiaid proffesiynol i greu arddangosfa o gerfluniau dros dro sy’n ysbrydoli, yn hysbysu ac yn addysgu ar draethau hardd Abertawe a Phenrhyn Gŵyr. Cewch ddysgu sgiliau a thechnegau newydd. Dewch â bwcedi a rhawiau, hetiau ac eli haul. Gallwch hefyd ddilyn ein llwybr Cerfluniau ar yr Arfordir ar hyd llwybr yr arfordir rhwng y Mwmbwls a Rhosili sy’n cysylltu â holl weithdai’r traeth. Crëwyd pum cerflun penodol â chyfeirbyst yn arbennig ar gyfer y llwybr a bydd cwis rhyngweithiol i ddysgu mwy am ardal hardd penrhyn Gŵyr drwy ddarnau o gelf. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.
Ewch i www.artandeducationbythesea.co.uk i gael y diweddaraf am yr ŵyl