fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae cwmni Street Food Warehouse yn falch o gyhoeddi y bydd Gŵyl Bwyd Stryd Abertawe’n dychwelyd i am bedwar diwrnod o fwyd, diod a hwyl! Dros benwythnos y Pasg, o 29 Mawrth – 1 Ebrill, bydd 30 o’r masnachwyr bwyd stryd gorau o bob rhan o Gymru a’r DU yn dod i’r Marina yn barod i’ch llenwi gyda bwyd blasus!

Eleni mae ganddynt fwy o fasnachwyr nag erioed o’r blaen ac maent yn bwriadu ychwanegu llwyfan adloniant gyda cherddoriaeth fyw a hwyl i’r holl deulu! Mae Gŵyl Bwyd Stryd Abertawe bellach yn dathlu ei phumed flwyddyn!

Mae Gŵyl Bwyd Stryd Abertawe’n unigryw gan fod dull coginio pob masnachwr yn wahanol. Felly, gallwch ddewis o amrywiaeth eang o fwydydd. Gallech roi cynnig ar fwyd Indiaidd, Byns Bao, bwyd Japaneaidd, cyw iâr wedi’i ffrio, bwyd feganaidd, macaroni a chaws, bwyd Morocaidd, bwyd Thai, bwyd Uzbekistan, bwyd Jamaicaidd, barbeciw, hwyaden, bwyd Groegaidd, bwyd Mecsicanaidd, bwyd Affganaidd, Churros, toesenni, hufen iâ gelato, wafflau, crêpes a llawer mwy! Gyda’r detholiad hwn o fasnachwyr byddwch yn sicr o ddod o hyd i fwyd blasus.