fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dydd Sul 26 – dydd Llun 27 Mai

Mae Canolfan Treftadaeth Gŵyr wedi bod yn cynnal digwyddiadau bwyd llwyddiannus ers blynyddoedd erbyn hyn, ac nid yw Gŵyl Bwyd Da Gŵyr yn eithriad. Mae’r ŵyl yn ôl am ei thrydedd blwyddyn oherwydd galw mawr. Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sul 26 a dydd Llun 27 Mai.

Dewch draw i Ganolfan Treftadaeth Gŵyr am ddiwrnod llawn bwydydd a diodydd blasus gan gynhyrchwyr lleol Gŵyr. Rhowch gynnig ar gludfwyd i dynnu dŵr o’ch dannedd, neu gallwch chi fwynhau’r danteithion yn y fan a’r lle! Cefnogwch eich cynhyrchwyr bwyd lleol yn ystod y digwyddiad gwych hwn, gyda chwisiau, sioeau pypedau, crefftau a straeon ar gyfer y plant, yn ogystal â digonedd o hwyl yn ein hardaloedd chwarae a’n parc anifeiliaid.

Yn ogystal â rhoi cynnig ar fwyd blasus, mae’r trefnwyr hefyd wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys teithiau tywys o’r felin a sesiynau bwydo anifeiliaid, sy’n berffaith ar gyfer y plant a fydd yn ymweld. Mae rhywbeth i bawb yn y digwyddiad hwn sy’n addas i deuluoedd, bydd hyd yn oed arddangosfeydd gwaith gof a chwythu gwydr, a’r cyfle i fod yn greadigol mewn gweithdai crochenwaith a chreu pypedau llaw. Am hwyl hen ffasiwn, cadwch lygad am sioeau Pwnsh a Siwan.

Os oes gennych ddiddordeb mewn stondin, ffoniwch Sarah neu Kimberley ar 01792 371206

Dyddiad
26-27 Mai
Lleoliad
Gower Heritage Centre