fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

 

Rhoddir Gwobr Wakelin bob blwyddyn i artist o Gymru y prynir ei waith ar gyfer ein casgliad parhaol. Detholwr eleni yw’r cerflunydd Laura Ford, sydd wedi dewis gwaith Richard Billingham.

Mae Richard Billingham yn byw yn Abertawe. Ef oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse ym 1997 ac fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Turner yn 2001. Cedwir ei waith mewn sawl casgliad cyhoeddus rhyngwladol megis Amgueddfa Celf Gyfoes San Francisco, yr Amgueddfa Fetropolitan, Efrog Newydd, y Tate a’r V&A, Llundain Mae ganddo gadair athro ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw ac ym Mhrifysgol Middlesex.

Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian, ynghyd â rhoddion.

Oriel Glynn Vivian

Ystafell 8

Dyddiad
29 MED - 18 TACH
Lleoliad
Glynn Vivian Art Gallery