fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn agor 15 Tachewedd – 2 Ionawr 2023!

Caiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer tymor yr ŵyl 2023 gyda hoff atyniadau pawb.

Oriau agor

15 Tachwedd – 3 Rhagfyr
Dydd Llun – dydd Gwener: 1pm – 10pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 11am – 10pm

4 Rhagfyr – 2 Ionawr
Bob dydd: 11am – 10pm

Eithriadau
15 Tachwedd: 5pm – 10pm
Noswyl Nadolig: 11am – 8pm
Dydd Nadolig: Ar gau
Gŵyl San Steffan: 1pm – 8pm
Nos Galan: 11am – 8pm
Dydd Calan: 11am – 8pm

Gwisgwch eich esgidiau sglefrio!

Bydd y llyn iâ yn ôl a dan do – felly gallwch fynd ar yr iâ ym mhob tywydd!

Gwisgwch eich esgidiau sglefrio a mwynhewch y teimlad Nadoligaidd wrth i chi sglefrio o gwmpas wrth wrando ar gerddoriaeth Nadoligaidd ac edmygu’r goleuadau’n pefrio.

Mae cymhorthion sglefrio ar gael i blant ifanc a chynhelir sesiynau hamddenol gyda llai o oleuadau, dim cerddoriaeth a chyhoeddiadau uchel bob dydd Mawrth.

Tocynnau

Ffair Bleser Nadoligaidd

Gallwch brofi hwyl y ffair yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau hefyd, sy’n cynnwys amrywiaeth o reidiau cyffrous sy’n addas i’r teulu cyfan.

Newydd ar gyfer 2023: Ewch ar yr Ice Jet os ydych chi’n chwilio am gyffro. Mae’r unig reid Ice Jet yn Ewrop yn cynnig profiad unigryw a chyffrous. Mae’n llawn hwyl cyflym ac yn gallu cyrraedd cyflymder o dros 50mya. Nid dyma ddiwedd y cyffro, gan fod yr Ice Jet yn brofiad clyweledol llawn. Yn gartref i dros 5,000 o oleuadau, gan gynnwys goleuadau neon, laserau, llusernau, a goleuadau tiwb, yn ogystal â 10 pêl ddisgo, mae’r effeithiau gweledol yn syfrdanol.

Ni fyddai unrhyw ymweliad â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn gyflawn heb droelli ar Yr Olwyn Fawr lle gallwch edmygu golygfeydd y ddinas wrth symud yn arafach ar yr olwyn 33 metr sydd hefyd yn cynnwys cerbyd sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Bwyd a Diod

Ac, os yw hyn i gyd yn gwneud i chi deimlo chwant bwyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Pentref Alpaidd i gael ffefrynnau’r ŵyl gan gynnwys selsig Almaenig, gwin y gaeaf cynnes neu hyd yn oed malws melys wedi’u tostio. Eisteddwch a mwynhewch awyrgylch y Pentref Alpaidd gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.