fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bob dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul.

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas am amrywiaeth o weithgareddau hunanarweiniedig difyr sy’n addas i deuluoedd.

Gallwch gael hwyl yn archwilio darllediad radio Dylan o ‘Holiday Memory’ ac yn nodi eich atgofion eich hun o wyliau hefyd. Gallwch fwynhau pypedau glan môr, ysgrifennu ac addurno cerdyn post, creu comig bach ‘Holiday Memory’, barddoniaeth fagnetig, gemau creu straeon, cornel ddarllen a mwy.

Mae gweithgareddau sy’n addas ar gyfer ystod o oedrannau, croeso i bawb! 😀

Bob dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 27 Gorffennaf a 4 Medi. Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm.

Mynediad am ddim!

Dyddiad
27 GOR - 04 MED
Lleoliad
Dylan Thomas Cenrtre
Visit website