fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Ymunwch â ni’r haf hwn wrth i’n gweithdai ar thema ‘Holiday Memory’, sy’n addas i deuluoedd, ddychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn gwneud gêm fwrdd teithio neu gêm gardiau yn ei blwch bach ei hun! Bydd gwahanol fathau o gemau i’w gwneud, gan gynnwys gêm baru syml, cardiau adrodd straeon, a gêm fwrdd fach lle byddwch chi’n penderfynu ar y rheolau! Hefyd, bydd yna lu o gemau bwrdd a gemau adrodd straeon i’w chwarae yn ein sied ysgrifennu.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad. Cofiwch fod lle i 35 yn ein gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth ar ôl cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w mwynhau yn ein lle arddangos.

Mae’r gweithdy hwn yn fwyaf addas ar gyfer teuluoedd, o 5 oed i oedolion.

Galwch heibio rhwng 1pm a 4pm

Am ddim

Dyddiad
26 AWS 2022
Lleoliad
Dylan Thomas Centre