Mae Graeme Hall, y gŵr hynod boblogaidd a medrus, (rhaglen Dogs Behaving (very) Badly) Channel 5) yn dod â’i ddoethineb, ei swyn a’i fedrusrwydd gyda chŵn i Theatr y Grand Abertawe.
Mae’r sioe 90 munud hon sydd wedi’i chreu’n arbennig yn llawn triciau, atgofion a syrpreisys i gynhesu’r galon yn ogystal â sesiwn holi ac ateb, a’r cyfan wedi’i gyflwyno mewn lleoliad byw hamddenol.
Mae Graeme Hall yn brif hyfforddwr cŵn gyda’r Guild Of Dog Trainers. Gyda mwy na 10 mlynedd o brofiad, rhestr o gleientiaid enwog ac ymddangosiadau rheolaidd ar BBC Breakfast a This Morning ITV, mae Hall wedi adeiladu enw da o ran darparu atebion cyflym a hirhoedlog i bron pob problem sy’n ymwneud ag ymddygiad cŵn. Mae gan Hall un arwyddair sef ‘unrhyw gi, unrhyw oed, unrhyw broblem’, a nawr eich tro chi yw e’ i gael eich ysbrydoli, elwa o’i brofiad a chael eich ci bach yn ôl ar y trywydd iawn ac wedi’i hyfforddi am oes.