fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Gwnaethom groesawu tymor y Nadolig i Abertawe mewn steil nos Sul 19 Tachwedd 2023 gyda’n Gorymdaith y Nadolig!

Roedd dawnswyr, bandiau, corau, fflotiau, offer chwyddadwy, cymeriadau wedi’u goleuo, tywysogesau, archarwyr a llawer mwy yn rhan ohoni – gan gynnwys Siôn Corn ei hun, a ddaeth ag ychydig o hwyl yr ŵyl gydag e’ er mwyn cynnau goleuadau’r Nadolig.

Dewch i weld eich hoff dywysogesau ac archarwyr, ac i gael eich syfrdanu gan wisgoedd ac arddangosfeydd swynol wedi’u goleuo. Bydd gorymdaith eleni’n llawn hwyl yr ŵyl gan fod cannoedd o bobl ifanc o grwpiau cymunedol y ddinas wedi achub ar y cyfle i fod yn rhan ohoni.

Bydd tywysogesau ac arwyr, ceirw wedi’u goleuo ac adar enfawr hudol Gwledd y Gaeaf yn ymuno â chast o gannoedd ar gyfer Gorymdaith y Nadolig eleni yng nghanol y ddinas. Bydd cerbyd tywysoges, cymeriadau o’r sioe gerdd boblogaidd, ynghyd â chast o gannoedd o wirfoddolwyr o’r gymuned i’w gweld ar strydoedd canol y ddinas wrth i’r paratoadau gychwyn ar gyfer cyfnod y Nadolig.

Bydd hen ffefrynnau’n dychwelyd a rhai newydd yn ymuno, yn ogystal â goleuadau, cerddoriaeth, peiriannau eira, tân gwyllt a Siôn Corn ei hun! Paratowch i groesawu tymor yr ŵyl mewn steil!

 

 

 

 

Hygyrchedd

Bydd synau uchel, goleuadau’n fflachio ac effeithiau arbennig yn ystod yr orymdaith – os oes angen rhywle mwy tawel arnoch i fwynhau’r orymdaith, bydd y rhan dawelaf ar ran isaf Ffordd y Brenin (ochr St Helen’s Road) a phen y Stryd Fawr a Stryd y Berllan. Ond dylech sylweddoli bod natur yr orymdaith yn golygu y bydd sŵn a goleuadau’n bresennol trwy gydol y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw bryderon ac rydych am eu trafod ymhellach, ffoniwch ni ar 01792 635428. Bydd ardal wylio hygyrch ar gael ar Princess Way ac Orchard Street.

Does dim angen cadw lle, dewch ar y noson. Toiledau hygyrch a nifer cyfyngedig o seddi ar gael hefyd yn yr ardaloedd gwylio.

Bandiau arddwrn diogelwch

Gall colli plentyn – hyd yn oed am ychydig eiliadau – fod yn ofidus iawn a gall ein cynllun Bandiau arddwrn diogelwch helpu i dawelu’ch meddwl a’ch galluogi i gael cymorth yn gyflym. Noddir gan Consumer Energy Solutions.

Gellir casglu bandiau arddwrn o:

  • The LC
  • The Pump House
  •  Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
  • Byses First Cymru Parcio a Theithio
  • Stiwardiaid
  • Glynn Vivian

 

 

 

Parcio a Theithio

Mwy o wybodaith yma.

 

 

 

 

 

Os nad oeddech yn teimlo hwyl yr ŵyl cyn i’r orymdaith ddechrau, byddwch yn siŵr o’i deimlo erbyn y diwedd!

Popeth y mae angen i chi ei wybod yma!


Noddwyr

Noddwr Teithio Swyddogol


Cefnogwr Trên Bach y Nadolig

Noddwr Bandiau arddwrn diogelwch

Noddwr Groupiau Cerdded

Diolch i westy Morgan’s am ddarparu’r ystafelloedd newid i’r perfformwyr.

Diolch i Days Rental a Days Motor Group am ddarparu cerbydau ar gyfer yr orymdaith.
Cyflwynir coed Nadolig arbennig Abertawe mewn partneriaeth â Communities for Work+Kartay


Oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r digwyddiad hwn 2023?

Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.  Mae pecynnau ar gael sy’n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu’ch anghenion a’ch amcanion.  I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch sales@swansea.gov.uk