fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Stori a osodwyd ddeng mlynedd ar hugain yn y dyfodol a fydd yn datblygu ar draws drama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw mewn tri lleoliad yng Nghymru— Blaenau Ffestiniog, Merthyr Tudful ac Abertawe dros saith diwrnod.

 

26 Medi 2022 – storm drydanol yn torri’n ddramatig dros Gymru. Mae’r amhosib yn digwydd – mae amser yn cracio, mae’r dyfodol yn cysylltu.

Mae Efa, merch 16 oed o Ferthyr Tudful, yn honni bod mwy na dim ond negeseuon wedi cyrraedd o 2052 – mae hi wedi cyfnewid lle gyda’i hunan 46 oed o 2052. Wrth i ni ddilyn ei thaith fyw ledled Cymru dros saith niwrnod, mae hi a’i ffrindiau yn eu harddegau mewn cyfyng-gyngor: beth i’w wneud pan fyddwch chi’n wynebu eich dyfodol eich hunan. Beth sydd gan 2052 i’w ddweud wrthon ni, ac ydyn ni’n mynd i wrando?

 

Dilynwch daith Efa wrth iddi deithio ar draws Cymru o Abertawe, drwy Ferthyr i Flaenau Ffestiniog. Bydd ei stori’n cael ei hadrodd drwy gyfres o benodau sy’n cael eu perfformio, eu ffilmio a’u ffrydio bob dydd.

Gwyliwch GALWAD ar-lein, ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys FacebookTwitterInstagram, YouTube, TikTok, o 26 Medi – 2 Hydref 2022.

Dilynwch GALWAD ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch yma. I ymgolli’n llwyr, dilynwch ein holl sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod nodyn atgoffa ar gyfer darllediad Sky Arts brynhawn dydd Sul 2 Hydref (4.30yh).

Stori yw GALWAD sy’n datblygu mewn amser go iawn o ddydd Llun 26 Medi tan ddydd Sul 2 Hydref. Bydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar sianeli digidol yn ystod yr wythnos, gan orffen gyda darllediad pedair awr ar Sky Arts ddydd Sul 2 Hydref yn fyw o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru, gyda drama deledu 60 munud i ddilyn wedi’i gosod yn 2052.

​Wedi’i hysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), polisi rhyfeddol Cymru sy’n rhoi hawliau cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, mae GALWAD yn stori sy’n dod â dyfodol posibl ar ruthr i’r presennol. Mae’n gwthio ffiniau ynglyn â sut mae straeon wedi cael eu hadrodd, gyda chymeriadau a straeon yn cysylltu ar draws drama deledu, perfformiadau byw, cyfryngau cymdeithasol a newyddion.

Cynhyrchir GALWAD gan Casgliad Cymru a’i gomisiynu gan Cymru Creadigol fel rhan o ‘UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU’.

Dyddiad
26 MED - 02 HYD
Lleoliad
Online