fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Frankie – The Concert yn ddathliad anhygoel o Frankie Valli and The Four Seasons, sydd wedi cael eu derbyn i’r Neuadd Enwogrwydd.

Caiff ffalseto enwog Frankie, yn ogystal â’r harmonïau gwych pedwar rhan, eu hail-greu’n ofalus gyda pharch, manylder anhygoel a chariad at y gerddoriaeth a fu’n hynod boblogaidd dros ddau ddegawd!

Mae Stephen James, seren y theatr deithiol (Let’s Hang On), yn cael ei ystyried gan lawer yn y diwydiant fel y dyn sy’n portreadu Frankie Valli orau, ac mae ganddo enw da am ail-greu ffalseto pwerus seren y 60au a’r 70au yn berffaith. Mae’r sioe hon, sy’n cynnwys band wyth aelod anhygoel ac offerynnau pres byw, yn un unigryw sy’n dod â cherddoriaeth Frankie Valli yn fyw drwy ail-greu cyngherddau go iawn – bydd rhai pethau annisgwyl hefyd!

Mae hanner cyntaf y sioe’n dathlu oes aur y chwedegau; Sherry, Big Girls Don’t Cry, Walk Like A Man, Bye Bye Baby, Let’s Hang On, Silence Is Golden, Ragdoll a Can’t Take My Eyes Off You. Mae ail hanner y sioe, sy’n dathlu llwyddiant The Four Seasons yn ystod yn y saithdegau, yn cynnwys yr anthem December 63 (Oh What A Night), Who Loves You, Grease (Is The Word), The Night, Beggin’, My Eyes Adored You, Fallen Angel a llawer mwy.

Os na allwch weld y dyn ei hun, ewch i weld Frankie – The Concert!

Dyddiad
10 MEH 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre