fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae ELO AGAIN yn ôl gyda’u taith ailddarganfod drawiadol i ddathlu cerddoriaeth wirioneddol ryngwladol Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra.

Mae ELO AGAIN wir yn rhoi blas dramatig i chi o sut beth fyddai cyngerdd enwog ELO wedi bod yn ôl yn oes aur y band; mae’r holl brofiad wedi’i ail-greu mewn ffordd broffesiynol gydag atgynhyrchiad sain, sioe oleuadau ac effeithiau gweledol rhagorol.

Fel sioe deyrnged orau’r DU, mae ELO AGAIN yn darparu effaith fyw drawiadol offeryniaethau enwog ELO i chi, ynghyd â’r llinynnau a’r lleisiau esgynnol. Maen nhw’n bendant yn gwybod sut i ddifyrru hefyd, wrth iddynt chwarae’r holl ffefrynnau. Mae eu fersiwn o MR BLUE SKY yn syfrdanol, yn llawn angerdd a thanbeidrwydd; bydd yr awditoriwm cyfan ar ei draed.

 

Dyddiad
06 HYD 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
27