fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Oherwydd galw aruthrol, mae’r digrifwr arobryn Ed Gamble yn estyn ei daith gomedi newydd sbon, Electric, ac mae dros 35 o ddyddiadau ychwanegol bellach ar gael yn genedlaethol o fis Medi 2022. Mae sioeau’r hydref yn cynnwys sioe unigol fwyaf Ed hyd yma, yn Apollo Eventim Llundain!

Mae wedi bod ar daith ers mis Chwefror, gan berfformio ar 3 noson lle gwerthwyd pob tocyn yn Hackney Empire enwog Llundain, ac mae’r dyn a elwir yn ‘Ol’ Broken Pancreas’ bellach yn barod i berfformio unwaith eto i hoelio sylw’r gynulleidfa.

Mae Ed yn cyflwyno’r podlediad hynod boblogaidd Off Menu ar y cyd â James Acaster, mae’n feirniad newydd ar Great British Menu, roedd yn bencampawr ar Taskmaster ac mae’n cyflwyno podlediad Taskmaster. Mae hyd yn oed yn gwerthu ei siwgr arbennig ei hun yn fyd-eang ar Amazon Prime.

Mae hefyd wedi ymddangos ar Mock the Week (BBC2), Live At the Apollo (BBC), The Russell Howard Hour (Sky), QI (BBC2), Would I Lie To You (BBC) a Sunday Mornings ar Radio X ynghyd â Matthew Crosby.

Dyddiad
12 HYD 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
21.99