fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dracula gan Bram Stoker, wedi’i haddasu a’i pherfformio gan James Gaddas.

Cyfarwyddwyd gan Pip Minnithorpe, cerddoriaeth wreiddiol gan Jeremy Swift, dylunio rhithiol gan John Bulleid, symudiad gan Deborah Radin.

Un dyn yn chwilio am y gwirionedd…

Y stori arswyd gothig enwocaf erioed.

Prin yw’r straeon sy’n tanio’r dychymyg mewn modd mwy pwerus na Dracula.

Ond pan daw James Gaddas (Bad Girls, Coronation Street, Medics) o hyd i gopi gwreiddiol Bram Stoker wedi’i sgrifennu â llaw wrth weithio ar sioe deledu sianel loeren, mae’r hyn y mae’n ei ddarllen yn anfon iasau ar hyd ei asgwrn cefn.

O’i gyfarfodydd rhyfedd yng nghastell yr iarll yn Transylfania i’w brofiad wrth gyrraedd llong marwolaeth oddi ar arfordir Whitby, trwy ddeniadau ganol nos ac ymlidiad arwrol ar draws Ewrop, gan rasio yn erbyn machlud yr haul – mae’r cyfan wedi gwefreiddio a chyffroi darllenwyr.

Ond mae’r copi hwn yn cynnwys tudalennau na chawsant eu cyhoeddi ac mae’n ei arwain at ddarganfyddiad dychrynllyd.

Beth os mai’r dechrau’n unig yw popeth roeddem yn meddwl ein bod yn ei wybod?

Beth os nad stori mohoni – ond rhybudd?!

Beth os yw’r chwedl – yn wir?!

Mae Gaddas yn dod â’r fersiwn wreiddiol yn fyw – cyn rhannu ei ddarganfyddiad yn y sioe lwyfan wefreiddiol hon.

Un actor, pymtheg cymeriad –

Un penderfyniad dybryd –

A yw hi’n well – gadael rhai pethau’n guddiedig?!

Credydau’r Tîm:

Cyfarwyddwyd gan Pip Minnithorpe (Cyfarwyddwr Cyswllt y DU – Harry Potter and The Cursed Child)
Cerddoriaeth wreiddiol gan Jeremy Swift (actor clodwiw – Downton Abbey, Ted Lasso)
Dylunio rhithiol gan John Bulleid (Y rhithiau yn y sioe a enillodd Gwobr Olivier, The Worst Witch)

Dyddiad
11 CHWE 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre