fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Ymbaratowch i ganu nerth esgyrn eich pen wrth i’r sioe drawiadol sy’n cynnwys y goreuon o anthemau diwedd nos gyrraedd y ddinas.

Fydd dim byd yn ein hatal nawr. Mae’r sioe hwyliog newydd sbon hon yn sicrhau noson wyllt o ffefrynnau di-baid i gyd-ganu â nhw.

Dyma’r noson rydych chi wedi bod yn aros amdani, gan gynhyrchwyr y sioe hynod boblogaidd, Lost in Music; mae’r bechgyn a’r merched yn eu holau.

A’r tro yma, yn fyw ar y llwyfan, maen nhw’n rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth Bryan Adams, Blondie, Cher, Rainbow, Bon Jovi, Kate Bush, Starship, Europe a Belinda Carlisle, i enwi rhai yn unig!

Mae’r cynhyrchiad theatr trydanol, egnïol hwn yn cyflwyno 30 o’r anthemau diwedd nos mwyaf i chi, a’r cyfan yn dod yn fyw mewn lliw llawn gyda chast gwefreiddiol, gwisgoedd trawiadol a sioe oleuadau anhygoel.

Mae’n amser i chi ymlacio a gwisgo’ch dillad gorau wrth i ni gyflwyno’r caneuon parti roc gorau ERIOED!

Gyda chaneuon yn cynnwys Summer of ’69, I Love Rock ‘n’ Roll, Eye of the Tiger, Livin’ on a Prayer, Sweet Child O’ Mine, China in Your Hand, You Shook Me All Night Long, Sweet Home Alabama a llawer mwy.

Cyflwynir i chi gan The Entertainers I bobl sy’n dwlu ar sioeau gan bobl sy’n dwlu ar sioeau

Cartref i rai o gynyrchiadau gorau’r wlad gan gynnwys The Magic of Motown, Fastlove, Lost in Music, Radio GaGa, Thank you for the Music, The Rocket Man a llawer mwy.

Dyddiad
17 CHWE 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
29