fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Beth am roi trît i’ch traed drwy ymuno â Phillip a Gaynor Evans yn nawns de Neuadd Brangwyn?

Mae Phillip a Gaynor yn ddawnswyr proffesiynol o’r ysgol ddawns sefydledig “Dance Kingdom” yn Llanelli ac ar hyn o bryd maent yn cystadlu fel dawnswyr proffesiynol dros Gymru. Maent yn gyn-bencampwyr amatur Pencampwriaeth Dawnsio Neuadd a Lladin Cenedlaethol Cymru, cyrhaeddon nhw rownd derfynol Pencampwriaethau Dilyniant Modern Prydain ac maent yn is-bencampwyr dilyniant Lladin ac yn fwy ddiweddar maent wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaethau Caeëdig 10 dawns i ddawnswyr proffesiynol y DU.

Mae Phillip a Gaynor wedi cynrychioli Cymru ym mhob pencampwriaeth fawr gan gynnwys pencampwriaethau rhyngwladol ac Ewropeaidd mewn lleoedd megis UDA, Awstralia, Rwsia ac Ewrop.

Dyddiad
10 EBR 2024
Lleoliad
Brangwyn Hall
Price
10.00