Pete Harrison Arweinydd
Elin Llwyd Cyflwynydd
Amy Dickson Sacsoffon
Academi Berfformio Caerdydd
Dechreuwch eich cyfnod cyn yr ŵyl gyda dathliadau Nadolig bythol boblogaidd CGG y BBC sy’n llawn disgleirdeb a hwyl yr ŵyl. Bydd llond blwch o ddanteithion cerddorol gan gynnwys Sleigh Ride Leroy Anderson; Troika o Lieutenant Kijé gan Prokofiev; Trepak o The Nutcracker Suite gan Tchaikovsky, a’r cyfle i gyd-ganu i gadwyn o ganeuon Nadoligaidd poblogaidd i’r holl deulu!
Bydd y sacsoffonydd enwog, Amy Dickson, a “hudodd” cynulleidfaoedd gyda’i pherfformiadau yng nghyngerdd fyw Rhestr Chwarae Glasurol CGG y BBC: YN FYW yn Neuadd Brangwyn yn gynharach eleni, yn ymuno â CGG y BBC, yn ogystal â phobol ifanc o Academi Berfformio Caerdydd a fydd yn canu amrywiaeth o ganeuon tymhorol. Bydd CGC y BBC hefyd yn croesawu’r actores broffesiynol, y gantores, yr artist trosleisio a’r cyflwynydd Elin Llwyd a fydd yn eich tywys drwy’r noson hon o glasuron y Nadolig.