Gan eistedd mewn copi o gorff awyren mewn cynhwysydd llwytho sy’n mesur 40 troedfedd, cynhelir y sioe theatr glywedol unigryw hon mewn tywyllwch llwyr a bydd yn mynd â chi ar daith heb ei hail.
Gan archwilio damcaniaethau aml-fydysawd Mecaneg Cwantwm, mae FLIGHT yn mynd ag aelodau’r gynulleidfa ar daith drwy dau fyd, dau realiti, a dau ganlyniad posib. Mae llawer o fydoedd lle byddai’r awyren hon yn glanio’n ddiogel. Ond, nid ni sy’n gyfrifol am eich taith olaf!
Mae FLIGHT yn ymuno â ni ar ôl llwyddiant ysgubol arall yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ac mae dros 100,000 o bobl wedi cael y profiad hwn ledled y byd.
“Properly exhilarating” Exeunt Magazine
RHYBUDD: Tywyllwch llwyr – efallai na fydd hyn yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd â chlawstroffobia.
Gallwch weld y digwyddiadau eraill a gynhelir yn Canolfan Celfddydau Taliesin yma