19.09.20 – 07.03.21
Bydd yr artist Dafydd Williams o Abertawe yn arddangos ei waith ochr yn ochr â gweithiau o gasgliad yr oriel.
Mae ‘malum‘ (o’r gair Lladin am “afal” a “drygioni”) yn canolbwyntio’n benodol ar waith Michelangelo a Caravaggio. Mae’r gwaith yn ceisio amlygu’r ddadl ddisynnwyr fod gwrywgydiaeth yn ‘ffenomen fodern’ ac ailystyried ei absenoldeb o ganon hanes Celfyddyd y Gorllewin.
Mae’r ymateb ar ffurf delweddau arddull giarosgwro o Williams a’i bartner, wedi’u goleuo’n naturiol. Mae’r ystumiau a’r goleuo yn cydnabod gwaith y meistri, sy’n dathlu cyrff gwrywaidd mewn perthynas hoyw gyfoes.
Wrth wneud hynny, mae Williams yn cyfrannu at strategaeth adolygiadol sy’n mynd i’r afael ag eithrio gwrywgydiaeth o ganol celfyddyd glasurol y Gorllewin.