fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Cefnogir gan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Goleg Celf Abertawe.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian a GS Artists yn falch o gyflwyno prosiect amlochrog sy’n edrych ar sut mae celf yn cyfranogi yng nghanol cymdeithas weithredol iach, gan ddechrau gydag ysgolion celf.
Mae Coleg Celf Abertawe y Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi bod yn rhan greiddiol o fyd y celfyddydau yn Abertawe ers tro, ac mae ei pherthynas â’r oriel wedi bod yn un o gydgyfnewidiaeth a haelioni, o arddangos gwaith myfyrwyr a darlithwyr a darparu cyflogaeth hyd at rannu adnoddau a lle. Cyfarwyddwr cyntaf yr Goleg Celf Abertawe, William Grant Murray (1877-1950) oedd curadur cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian hefyd.

Nod yr arddangosfeydd ar y cyd hyn yn y Glynn Vivian a GS Artists yw dathlu cyd-destunau addysg gelf y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Yn GS Artists, cynhelir arddangosfa sy’n dathlu archif yr Goleg Celf Abertawe. Bydd yn cynnwys ffotograffau gan y ffotograffydd o Abertawe, Colin Riddle, ynghyd â delweddau archifol a deunydd o archif yr ysgol gelf yn ogystal â chan ddarlithwyr a myfyrwyr y gorffennol. Bydd hefyd recordiadau fideo a sain o atgofion cyfranogwyr am yr ysgol gelf a fydd yn archwilio’u profiadau unigryw.

Yn y Glynn Vivian bydd arddangosfa o gelfweithiau o gasgliad parhaol yr oriel gan gynfyfyrwyr a darlithwyr yr Goleg Celf Abertawe, gan gynnwys gweithiau gan Irene Bache, Glenys Cour, James Henry Govier, Alfred Janes, Ceri Richards, Jane Phillips, Will Roberts a llawer mwy.

Bydd hefyd gyfle i chi ychwanegu unrhyw atgofion neu feddyliau at yr arddangosfa wrth i ni barhau i dyfu’r archif hon a gaiff ei chadw yn archifau Oriel Gelf Glynn Vivian ac Goleg Celf Abertawe.

Dyddiad
24 MED - 06 TACH
Lleoliad
Glynn Vivian Art Gallery
Visit website