Yn dilyn y cyngor diweddar gan y llywodraeth, mae’r lleoliad hwn ar gau dros dro. O ganlyniad, y digwyddiad hwn wedi’i ohirio. Cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Dawns sy’n ein huno ni
Mae’n uno pobl, teuluoedd, ffrindiau, clybiau, timau, llwythau a chymunedau.
Mae CDCCymru’n perfformio barddoniaeth, chwaraeon a gwleidyddiaeth ar draws tri darn dawns pwerus.
Mae Rygbi: Yma / Here yn codi calon: llawn gobaith, gogoniant a chyfeillgarwch. Mae’n dathlu’r balchder a’r angerdd mae’r chwaraewyr a’r cefnogwyr rygbi yn ei brofi gyda’i gilydd.
Cynnwrf egnïol yw Lunatic. Mae’n hwyl, yn berthnasol ac yn tanio. Mae’n uno cerddoriaeth a steil y 30au gyda diwydiant pop y 90au. Cafodd ei ddangos 10 mlynedd yn ôl am y tro cyntaf, ac mae’n llawn cwestiynau ynghylch cenedligrwydd, rhyw a dosbarth.
Mae 2067: Time and Time and Time yn gain. Dawnswyr yn datgelu cerdd sy’n tywynnu, ynghylch y berthynas rhwng hanes amser a barddoniaeth tynged.
Hyd y sioe tua 2awr (gan gynnwys egwyliau 2 * 20 mnd)
Arweiniad oedran:12+