Mae Clwb Rygbi Abertawe’n dathlu 150 o flynyddoedd gyda nifer o ddigwyddiadau arbennig. Trefnwyd gêm goffa yn erbyn y Barbariaid i ddod â’r tymor i ben.
Yn ystod y tymor, mae’r crysau gwynion wedi cynnal cinio gala, nifer o dwrnameintiau rygbi iau, cynhwysol a gallu cymysg, cinio busnes, diwrnod golff ac maent hefyd wedi crynhoi ei garreg filltir hanesyddol mewn llyfryn dathliadol. Mae’r crysau gwynion hefyd wedi gwisgo cit arbennig ar gyfer gemau drwy gydol y tymor sy’n adlewyrchu’r lliwiau gwreiddiol a wisgwyd gan Glwb Rygbi Abertawe, sef lliw coch cochrudd.
Daw’r dathliadau i ben gyda’n cyfeillion tymor hir, y Barbariaid. Abertawe oedd un o’r timau cyntaf yn y byd i chwarae’r Baa Baas, gan gynnal digwyddiad blynyddol yn San Helen yn erbyn y tîm gwadd Ddydd Llun y Pasg.
I gydnabod yr hanes rhwng y timau yn ystod tymor pen-blwydd Abertawe, bydd y Barbariaid yn teithio i Gymru ar ôl chwarae yn erbyn gweddill y byd (World XV) yn Twickenham. Gydag Eddie Jones yn hyfforddi’r Baa Baas ar gyfer y gêm hwn, cyhoeddwyd eisoes fod carfan y Barbariaid yn cynnwys rhai o sêr rygbi’r byd.
Cynhelir y gêm nos Fercher 31 Mai gyda’r gêm yn dechrau’n gynnar am 6:30pm ar Faes Rygbi byd-enwog San Helen.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael a disgwylir i’r rheini gael eu gwerthu’n gyflym oherwydd natur arbennig iawn y gêm hon.
Dylid cyfeirio ymholiadau cyffredinol NAD ydynt yn ymwneud â thocynnau i whites.srfc@gmail.com
Prynu Tocynnau Bank Standing wrth y giât
Prynu Tocynnau Mumbles End Standing wrth y giât
Tocynnau Stand Seated GWERTHU MAS
Tocynnau Stand Side Standing GWERTHU MAS