fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae dau o gantorion clasurol gorau’r byd, Aled Jones a Russell Watson, yn dod at ei gilydd ar gyfer Nadolig 2022 gydag albwm newydd sbon. Bydd y deuawd â lleisiau pwerus, a fydd yn perfformio gyda’i gilydd unwaith eto yn dilyn bwlch o 3 blynedd, hefyd yn mynd ar daith fawr o’r DU ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

Meddai Aled Jones, “Ar ôl cwpl o flynyddoedd rhyfedd iawn i ni i gyd, rwy’n gyffrous iawn i berfformio gyda fy ffrind Russell unwaith eto wrth i ni gyhoeddi’n trydydd albwm gyda’n gilydd! Bydda i bob amser yn gysylltiedig â’r Nadolig, felly mae’n anrhydedd i weithio gydag ef. Rydym bob amser yn cael llawer o hwyl ar daith, felly bydd canu ein hoff ganeuon Nadolig gyda’n gilydd mewn sawl lleoliad hardd yn nes ymlaen eleni’n drît go iawn! A dydych chi byth yn gwybod, efallai y bydd ‘Traffic Cone’ yn perfformio hefyd…a gobeithio bod Russ wedi cael cyfle i wella ei sgiliau dawnsio wrth berfformio yn Chicago!”

Ychwanegodd Russell Watson, “Cawsom amser gwych yn recordio’n dau albwm cyntaf gyda’n gilydd, felly dwi’n gyffrous iawn i fod yn ôl yn y stiwdio gyda’n gilydd yn gweithio ar albwm rhif 3. Cawsom amser anodd iawn yn dewis o’r holl ganeuon Nadolig gwych sydd ar gael, ond rydym wedi dewis detholiad arbennig o ganeuon sydd wir yn golygu rhywbeth i’r ddau ohonom. Bydd rhannu llwyfan gyda’n gilydd unwaith eto yn ystod ein taith o’r DU ar ddiwedd y flwyddyn yn brofiad arbennig iawn ar ôl 3 blynedd ar wahân. Rwy’n gobeithio y bydd ‘Christmas with Aled and Russell’ ar restr Nadolig pawb, ac rwy’n methu aros i’ch gweld chi i gyd yn ystod y daith ym mis Tachwedd a Rhagfyr!”

Mae dau o artistiaid mwyaf poblogaidd y genedl, Aled a Russell, wedi cael llwyddiant ysgubol rhyngddynt, o wobrwyon mawreddog i ganeuon sydd wedi torri sawl record yn y siartiau.

Aled Jones yw’r seren glasurol wreiddiol, sydd wedi bod yn perfformio am dros 40 o flynyddoedd. Ar ôl dod yn un o gantorion soprano gwrywaidd mwyaf llwyddiannus y byd yn 12 oed, mae wedi cyhoeddi dros 40 albwm ac mae ganddo dros 40 disg arian, aur a phlatinwm.

Yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi Blessings, albwm aml-ffydd sy’n cynnwys caneuon o amrywiaeth o grefyddau gwahanol, ac wedi ymddangos ar raglen boblogaidd ITV, The Masked Singer, fel y cymeriad ‘Traffic Cone’. Mae hefyd wedi cael gyrfa helaeth fel cyflwynydd teledu a radio, ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno’i sioe wythnosol ei hun ar Classic FM a Songs of Praise y BBC.

Disgrifiwyd Russell Watson gan The New York Times fel perfformiwr ‘sy’n canu fel Pavarotti ac yn diddanu’r gynulleidfa fel Frank Sinatra’. Roedd ei albwm cyntaf, The Voice, ar frig siartiau’r DU am 52 o wythnosau yn 2001, yn ogystal â bod ar frig y siartiau yn UDA, sy’n golygu mai ef yw’r cantor gwrywaidd cyntaf o Brydain i ennill safle rhif 1 yn y siartiau Prydeinig a thrawsatlantig ar yr un pryd.

Drwy gydol ei yrfa anhygoel mae wedi perfformio ar gyfer rhai o ffigyrau arweiniol y byd gan gynnwys EM y Frenhines, y diweddar Pab Ioan Paul II, a llywyddion blaenorol UDA, Bill Clinton, George W Bush a Barack Obama.

Yn 2020 cyhoeddodd Russell ei albwm diweddaraf, 20, albwm â chasgliad o ganeuon i nodi 20 mlynedd ers iddo gyhoeddi ei albwm cyntaf hynod lwyddiannus, ac eleni mae wedi bod yn perfformio rôl Billy Flynn yn y sioe gerdd boblogaidd, Chicago.

Tocynnau: £34.50 – £57.00

Dyddiad
26 TACH 2022
Lleoliad
Brangwyn Hall
Price
34.51