fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Wedi’i gyflwyno gan Gerddorfa a chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae’r digwyddiad yn cynnig ffordd amgen o fwynhau cerddoriaeth glasurol, gyda’r nod o gynnig profiad hygyrch, hollgynhwysol sy’n arddangos amrywiaeth eang o gerddoriaeth mewn amgylchedd gwrando mwy hamddenol.

Gan gynnwys rhaglen amrywiol o gerddoriaeth dros dri llwyfan, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl profiad y gellir ymgolli ynddo’n llwyr gan gerddorfa symffoni, corws, grwpiau siambr, eitemau unigol a champweithiau corawl di-gyfeiliant.

Gyda rhan fwyaf o seddau’r lleoliad wedi’u dynnu, gall aelodau’r gynulleidfa sefyll ar eu traed, eistedd neu orwedd ar y llawr, neu gerdded o gwmpas gyda diod yn ystod y perfformiad.

Gallwch chi ddod wyneb yn wyneb â’r cerddorion a’r unawdwyr mewn perfformiadau promenâd lle bydd cerddorion yn cael cyfle i serennu gan gynnwys un o sacsoffonydd gorau’r byd, Amy Dickson, y pianydd Huw Watkins a’r organydd Huw Williams.

Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth hoffus ac adnabyddus gan gynnwys Nimrod gan Elgar o’r Enigma Variations, Dance of the Knights o Romeo a Juliet gan Prokofiev, The Ride of the Valkyries gan Wagner, O Fortuna gan Orff o Carmina Burana a Palladio gan Syr Karl Jenkins. Bydd y noson hefyd yn cynnwys cyfansoddiadau o waith Bruckner, Copland, Mozart a Ravel.

Gyda bron i 200 o gerddorion o Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a pherfformiad arbennig gan Gerddorfa Linynnol Ieuenctid y Chwe Sir, mae’r digwyddiad hwn yn un i’r teulu cyfan ac yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd am roi cynnig ar gerddoriaeth glasurol am y tro cyntaf.


Tocynnau

  • Pris llawn £15
  • Consesiynol £5

Prynu tocynnau yma


Gŵyl Ymylol Abertawe 2019

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe 2019 gyfan, sydd hefyd yn cynnwys Archarwyr yn Sgwâr y Castell a Gŵyl Ymylol Abertawe.

Darganfyddwch ragor am ŵyl Ymylol Abertawe 2019

Dyddiad
05 HYD 2019
Lleoliad
Brangwyn