Celf yn y bar – Recordiau a Ffansîn R*E*P*E*A*T. Brwydro yn erbyn y Grym Ers 1994.
03/08/24 – 14/09/24
Wedi’i sefydlu’n wreiddiol fel teyrnged torri a gludo i athrylith sur cynnar y Manic Street Preachers, mae Ffansîn R*E*P*E*A*T wedi tyfu o fod yn faban blêr, swnllyd, amharchus, plentynnaidd, gwrthryfelgar i fod yn oedolyn blêr, swnllyd, amharchus, plentynnaidd, gwrthryfelgar. A phwy fyddai ei moyn unrhyw ffordd arall?
Mae R*E*P*E*A*T, a ddisgrifiwyd gan y wasg fel ‘Indie Tution’ dan ddaear, wedi ehangu o’i ddechreuadau ffansîn gostyngedig i gwmpasu label recordiau, hyrwyddo gigs a gwefan enfawr ac anhylaw, yn ogystal â stiwdio recordio crwydredig DIY.
Mae’r arddangosfa hon yn ceisio cadw rhywfaint o lud, glam a gogoniant R*E*P*E*A*T rhag yr angof a yw’r cyrchfan arferol anghyfiawn cymaint o effemera hynod greadigol. Mae’n cynnwys sganiau o dudalennau ffansîn gwreiddiol, posteri gigiau, ffotograffau (rhai na welwyd erioed o’r blaen), llewys CD a recordiau, rhefru ac adolygiadau, harddwch a bustl, ynghyd â rhai o’n malurion digidol mwy diweddar.
Rydyn ni wedi casglu llawer mwy o’r math yma o beth a wedi gludo llawer mwy o’r fath yma o beth i mewn i lyfr A4 200 tudalen hynod anrhefnus lliw llawn, ar gael yn yr arddangosfa, sydd ei hun yn cael ei lansio gyda gig anferthol trwy’r dydd yn yr un lleoliad ar Awst 3ydd.
Dewch i chwilio o gwmpas ein hamgueddfa yn llawn hanes o 30 mlynedd o rwbel a chach, ac yna cael eich ysbrydoli ar gyfer yfory; cydiwch yn eich gitâr, beiro, meicroffon, megaffon, gliniadur, llinell biced, brwsh paent, bwrdd pastio, taflenni neu ddychymyg, a gwnewch ddyfodol llawer mwy disglair.
‘Nid drych sy’n cael ei ddal i realiti yw celf ond morthwyl i’w siapio.’ Bertolt Brecht