fbpx
Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
26 - 27 Hydref

Dewch i gael cipolwg unigryw o du ôl i’r llen i weld sut mae dawnswyr CDCCymru yn paratoi ychydig oriau cyn sioe.

Gallwch arsylwi, braslunio, recordio a thynnu lluniau o ddosbarth dawns gyfoes neu fale, gan roi blas ar fywyd CDCCymru i chi.

Perffaith ar gyfer myfyrwyr dawns, artistiaid, ffotograffwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweld beth sy’n digwydd y tu ôl y llen. Gallwch ehangu eich portffolio, ymarfer darlunio symudiad, neu wylio â diddordeb.

Mae’r Dosbarth Gwylio Dawns yn cael ei gynnal 1-2pm yn yr awditoriwm (mae am ddim i fynychu ond mae’n rhaid i chi archebu tocyn.)

Digwyddiad gyda capasiti cyfyngedig

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn…

CCDCymru: Zoetrope

Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith.  Archebwch yma.

CCDCymru: Gorwelion

Dewch i ddianc i fyd yn llawn cyffro trwy wylio dwy ddawns gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – profiad dawns cadarnhaol a gwirioneddol gelfydd.

 

Archebwch yma.

 

Gallwch weld y digwyddiadau eraill a gynhelir yn Canolfan Celfddydau Taliesin yma