Profiad dawns yn llawn cyffro
AUGUST gan Matthew William Robinson
Wrth i’r haul fachlud, newidiodd popeth.
Machlud yr haul sydd wedi ysbrydoli AUGUST – gofod rhwng rheolaeth a rhyfyg. Gorffen a ffarwelio yw hanfod AUGUST. Y newidiadau sy’n ein dwyn ynghyd ac yn ein gwahanu.
Law yn llaw â lliwiau gwan y cyfnos a fflachiau neon y nos, mae AUGUST yn teithio trwy dirwedd synhwyraidd sy’n symud rhwng y peryglus a’r hardd.
Cydweithrediad artistig rhwng y coreograffydd Matthew William Robinson, y cyfansoddwr Torben Sylvest, y dylunydd George Hampton Wale, y dylunydd goleuadau Emma Jones ac artistiaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Skinners gan Melanie Lane
Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Rydym yn defnyddio hidlyddion i bylu realiti, a rhithffurfiau i guddio pwy ydym ni. Rydym yn siarad gyda Deallusrwydd Artiffisial, ac mae’r Deallusrwydd hwnnw yn siarad yn ôl gyda ni. Rydym yn gwegian ar ymyl dyfodol gwefreiddiol a dychrynllyd lle mae’r corff dynol yn camweithio rhwng cnawd a rhith, ffaith a ffuglen.
Y tu hwnt i’r ffantasïau a wireddir gan dechnoleg, erys ein dynoliaeth. Sut y gallwn ddychwelyd at y byd go iawn? Sut y gallwn ddychwelyd at ein croen, sy’n rhan annatod ohonom?
Mae Skinners gan Melanie Lane (coreograffydd o Awstralia o darddiad Ewropeaidd a Jafanaidd) yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Yamila Rios, gwisgoedd gan Don Aretino a goleuadau gan y dylunydd Cymreig Ceri James.
Archebion Ysgol i gysylltu â’r Swyddfa Docynnau
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn…
CCDCymru: Zoetrope
Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith. Archebwch yma.
CCDCymru: Dosbarth Gwylio Dawns
Dewch i gael cipolwg unigryw o du ôl i’r llen i weld sut mae dawnswyr CDCCymru yn paratoi ychydig oriau cyn sioe. Archebwch yma.
‘dazzling’ The Times
‘The dancers’ timing is extraordinary, their performance utterly compelling’ The Times
‘striking visuals and visceral physicality’ The Times
‘endlessly inventive’ The Observer
‘First-rate artistry’ Danza Danza Magazine
‘Extraordinary and thrilling’ Aberystwyth Ego
Gallwch weld y digwyddiadau eraill a gynhelir yn Canolfan Celfddydau Taliesin yma