fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Nos Wener 31 Ionawr  7.30pm

Cyfle prin i weld cydweithrediad byd-eang gwefreiddiol. Yn ôl yn 2007, cyfarfu’r delynores Gymreig Catrin Finch â Cimarrón y band joropo o Golombia  a chychwyn ar daith gyffrous o Gymru, cydweithrediad a ailadroddwyd yn 2009 a 2010. Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae Catrin a Cimarrón yn cwrdd eto i deithio’r DU.

Mae Catrin Finch yn un o delynorion arweiniol y byd, y mae ei gyrfa wedi cynnwys perfformiadau unigol gyda cherddorfeydd blaenaf y byd, a chydwei-thrediadau gyda rhai o’r artistiaid cerddoriaeth byd gorau, gan gynnwys Toumani Diabate a Seckou Keita y chwaraewr kora o Senegal.

Mae Cimarrón, grwp 6 darn a enwebir am Grammy yn perfformio cerddoriaeth ddawns joropo o wastatiroedd magu gwartheg yr Orinoco, yn wreid-diedig yn ddwfn mewn traddodiad a ddiffinnir gan etifeddiaeth gymysg mestizo o Affrica, Sbaen a diwylliannau brodorol. Wedi ei arwain gan y telynor a’r cyfansoddwr Carlos Rojas, mae Cimarrón yn creu cerddoriaeth wyllt, anystywallt sy’n cynnal yr ysbryd rhyddid sydd i’w ganfod yn un o ardaloedd mwyaf naturiol y byd. Yn sionc ac yn rymus, dyma i chi gerddoriaeth sydd â chanu angerddol, dawnsio stomp rhyfeddol a meistrolaeth offerynnol dan-baid y llinynnau ac offerynnau taro.

“Their female dancer, in a gorgeous dress from some 19th century ballroom, swirls in a deadly-looking courting ritual round a stamping male, and a sensual past breathes again.” THE INDEPENDENT on Cimarron at WOMAD 2009.

Prynu Tocynnau

 

Dyddiad
31 ION 2020
Lleoliad
Taliesin Arts Centre