fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae dros 22 miliwn o bobl wedi’i gweld ar draws y byd.

Agorodd y sioe arobryn arbennig hon o’r West End am y tro cyntaf ym 1989 ac mae wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd ar draws y byd ers hynny. Nawr mae’n dychwelyd i Theatr y Grand Abertawe fel rhan o’i thaith ar draws y DU yn 2023.

Bydd Buddy – The Buddy Holly Story yn bendant yn gwneud i chi deimlo’n wych! Gallwch brofi’r ddrama, yr angerdd a’r cyffro wrth i gast amldalentog o actor-gerddorion adrodd stori Buddy Holly, o’i ddyddiau cynnar rocabili yn Texas i fri rhyngwladol a’i berfformiad olaf enwog yn Surf Ballroom yn Clear Lake, Iowa, cyn ei farwolaeth drasig yn 22 oed.

Bydd yn cynnwys dwy awr arbennig o’r caneuon gorau a ysgrifennwyd erioed, gan gynnwys That’ll Be The Day, Oh Boy, Rave On, La Bamba, Chantilly Lace, Johnny B. Goode, Raining In My Heart, Everyday, Shout a llawer, llawer mwy, mae’r sioe hon yn anhygoel!

Archebwch nawr ar gyfer y sioe gerdd Roc a Rôl fwyaf llwyddiannus erioed!

Dyddiad
06-10 MEH
Lleoliad
Swansea Grand Theatre