fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae Ben Portsmouth yn cyflwyno’i deyrnged syfrdanol i’r Brenin Roc a Rôl!

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y sioe Elvis orau yn y byd, wedi’i pherfformio gan ddyn a werthodd bob tocyn ar gyfer ei berfformiadau ar yr un llwyfannau y gwnaeth Elvis berfformio arnynt yn Vegas a’r Adelphi Theatre yn y West End. Llwyddodd Ben i wneud hanes yn 2012 drwy dorri pob record i ddod y person Ewropeaidd cyntaf i gael ei enwi fel yr Artist Teyrnged Elvis Gorau yn y Byd gan ‘Elvis Presley Enterprises’ ym Memphis. Ers hynny, mae Ben wedi perfformio ar ‘The Late Show’ gyda David Letterman, ac mae ar daith fyd-eang ar hyn o bryd gyda’i gynhyrchiad gwych, ‘This is Elvis’. Gan ddathlu bywyd y siewmon enwog, byddwch yn mynd ar daith yn ôl mewn amser drwy wrando ar rai o ganeuon mwyaf poblogaidd Elvis o bob cyfnod, gan gynnwys y 1950au, ei ddychweliad enwog yn ’68, a ffefryn Ben, ei gyngherddau yn Vegas yn y 1970au. Gyda’i swyn a’i garisma, mae Ben yn siewmon go iawn!  Mae’n parhau i syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’i bresenoldeb ar y llwyfan, gyda chefnogwyr ar draws y byd yn dweud mai ef yw’r person tebycaf erioed i’r Brenin!

Dewch i ymuno â ni am noson wych gyda Ben a’r band!

Archebwch Docynnau 

Dyddiad
14 TACH 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
33.00
Archebwch docynnau