Elizabeth Maconchy Nocturne for Orchestra, Britten Violin Concerto, Elgar Symphony No. 2.
–
Tadaaki Otaka arweinydd, Simone Lamsma ffidil.
Bydd yr Arweinydd Llawryfog poblogaidd, Tadaaki Otaka, yn dychwelyd i BBC NOW i berfformio ffefrynnau cadarn gan Elgar a Britten, ochr yn ochr â Nocturne i Gerddorfa hudolus gan Elizabeth Maconchy.
Yn y rhaglen cwbl Brydeinig hon, sy’n edrych ar gerddoriaeth tri o gyfoedion yr 20fed Ganrif, mae Simone Lamsma, sy’n feiolinydd disglair o’r Iseldiroedd, yn ymuno â ni ar gyfer Concerto hynod boblogaidd Britten i’r Ffidil. Ceir cryn amwysedd yn y darn, sydd wedi’i fynegi drwy harmonïau cymhleth, themâu telynegol synfyfyriol, a nodau rhythmig bywiog. Mae’r concerto yn arddangosfa feistrolgar o bŵer eithriadol.
Mae gan gerddoriaeth Elgar le arbennig yng nghalon Tadaaki, ac mae cynulleidfaoedd yn cael gwledd go iawn gyda’i Ail Symffoni. Mae’r symffoni’n llawn egni, ysblander a mabolgampiaeth cerddorol, ac mae’n cyfleu llif o alawon gwreiddiol, rhythm chwareus a chywrain, a nodweddion disglair a meddal. Mae hwn yn sicr yn gyngerdd na ddylech ei fethu…