Disgwylir i’r unigryw Barry Steele rocio fel ‘Yr O Mawr’ wrth iddo berfformio ar y llwyfan i ddathlu etifeddiaeth gerddorol ‘Yr O Mawr’ a’i ffrindiau yng nghynhyrchiad y West End o ‘The Roy Orbison and Travelling Wilbury’s Story’.
Gyda band syfrdanol yn ei gefnogi, bydd y cynhyrchiad yn cyflwyno’r holl ganeuon poblogaidd ynghyd â chaneuon gwreiddiol a ysgrifennwyd gan Roy Orbison na chawsant eu canu ganddo, yn ogystal ag arddangos elfennau o’r offeryniaeth symffonig a glywyd am y tro cyntaf ar albymau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae’r strafagansa gerddorol hon o’r radd flaenaf hefyd yn cynnwys diweddglo arbennig wrth i’r cast cyfan ddod ynghyd i ddilyn ‘The Travelling Wilburys.’
Gyda naws yr 80au, mae gan y sioe hon rywbeth i bawb!
Mae Barry Steele wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd â’i allu annaearol i ailgreu doniau lleisiol yr enwog Roy Orbison, gan dderbyn adolygiadau brwd o bob rhan o’r byd. Mae ei ddoniau lleisiol yn dangos ‘disgleirdeb gwirioneddol’.
Gyda sgrîn fawr a ffrydio byw!