fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

7:30 pm – 9:30 pm

Dechreuodd Andrew Cotter 2020 fel un o’r lleisiau mwyaf adnabyddus ym myd darlledu chwaraeon. Erbyn hyn mae’n un o sêr y rhyngrwyd, bron yr un mor enwog â’i gŵn ffyddlon, Olive a Mabel, a ddaeth yn sêr byd-enwog dros nos.

Daeth sylwebaeth ddoniol Andrew mewn cyfres o gystadlaethau ar-lein rhwng ei ddau Labrador annwyl â phobl ar draws y rhyngrwyd at ei gilydd yn ystod dyddiau anoddaf y cyfnod clo. Cafodd y gyfres galonogol a thwymgalon, gan gynnwys ‘Game of Bones’ ei rhannu ar draws y byd ac erbyn hyn mae’r gyfres wedi’i gwylio dros 50 miliwn o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol. Mae perfformiadau Olive a Mabel wedi diddanu perchnogion cŵn, pobl sy’n dwlu ar chwaraeon a llu o enwogion ledled y byd.

Ymunwch ag Andrew, Olive a Mabel ar gyfer y digwyddiad byw arbennig iawn hwn, wrth i Andrew roi sylwebaeth wahanol iawn: hanes twymgalon ei fywyd gyda’i ddau Labrador enwog, ei berthynas â’i gŵn a’u hanturiaethau niferus. Bydd Andrew’n adrodd stori lawn hanes Olive a Mabel wrth iddynt ddod yn sêr y rhyngrwyd, sut mae ei gysylltiad â’i gŵn wedi tyfu i fod yn berthynas glòs, gadarn, a sut mae cerdded a dringo yn y mynyddoedd yn eu helpu i ddod o hyd i lonyddwch, llawenydd a hapusrwydd i ffwrdd o’r byd prysur.

Mae’r sylwebaeth deimladwy hon a fydd yn gwneud i chi chwerthin mas yn uchel yn drît i’r teulu cyfan.

Tocynnau: £28.00

Dyddiad
04 MAW 2022
Lleoliad
Brangwyn