fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Enillodd sioe gyntaf Alex Edelman, Millennial, a oedd yn sôn am luniau stoc hynod ysgytiol a phobl ifanc, wobr Gomedi Caeredin ar gyfer y Digrifwr Newydd Gorau, sef y sioe gyntaf gan Americanwr i ennill y wobr ers 1997. Cafodd y sioe ddilynol, Everything Handed to You – sy’n ymwneud â hunaniaeth ac argaeledd socedi plwg mewn meysydd awyr, mwy fyth o glod: gwerthodd pob tocyn yn ystod ei chyfnod yng Nghaeredin a chafodd yr ail adolygiadau gorau ar gyfer unrhyw sioe gomedi yn yr ŵyl. Cafodd ei ffilmio yn ei chyfanrwydd hefyd ar gyfer rhaglen arbennig Live at the BBC, sydd ar gael ar Netflix ar hyn o bryd.

Just For Usfydd yn dod nesaf. Cafodd ei henwebu ar gyfer gwobr Barry yng Ngŵyl Gomedi Ryngwladol Melbourne, ac ennillodd wobr Herald Angel yn ogystal â chael ei henwebu ar gyfer gwobr y Sioe Orau yng Ngŵyl Gomedi Caeredin, ac mae’n sôn am gorilaod sy’n gallu siarad iaith arwyddion a llwytholdeb. Dewch yn llu.

Dyddiad
06 CHWE 2020
Lleoliad
Swansea Grand Theatre