ABBA – Forever yw un o sioeau teyrnged rhyngwladol mwyaf y DU, ac mae cynulleidfaoedd theatr o bob rhan o Brydain Fawr a Sweden wedi mwynhau’r sioe adloniant wych hon sy’n dynwared y grŵp a allai fod y grŵp pop gorau a welodd y byd erioed.
Caiff sain unigryw ABBA ei dyblygu â manylder anhygoel, gan ddefnyddio band chwe aelod â gitarau trydanol ac acwstig, allweddellau a phiano, drymiau a gitâr bas. Mae dwy ferch ABBA ragorol yn cwblhau’r grŵp, gan ychwanegu’r glits a’r glam hanfodol at sioe eithriadol llawn hiwmor ysgafn.
Caiff y geiriau gwych, a ysgrifennwyd gan Benny a Björn, eu canu mewn harmoni gan y chwe pherfformiwr ar y llwyfan. Gyda choreograffi deinamig, perfformiad gweledol syfrdanol, cerddoriaeth o’r radd flaenaf a pherfformiad HOLLOL FYW, mae sioe ABBA Forever yn siŵr o swyno cynulleidfaoedd o’r eiliad y mae’n dechrau hyd at gorws olaf y strafagansa ddwy awr hon.